R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
1. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau addysg ysgolion uwchradd yn adran Caerdydd De Caerdydd a Phenarth. OAQ(4)0247(ESK)
2. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y wefan Fy Ysgol Leol. OAQ(4)0244(ESK)W
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa
drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda
Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ynghylch sefydlu colegau diogel yng
Nghymru a Lloegr. OAQ(4)0243(ESK)W
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am ddyfodol addysg yng Nghymru. OAQ(4)0235(ESK)
5. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei
gynlluniau i wella cydweithrediad rhwng sefydliadau Addysg Uwch yng
Nghymru. OAQ(4)0239(ESK)
6. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y system fandio ar niferoedd disgyblion mewn ysgolion yn y bandiau isel. OAQ(4)0240(ESK)W
7.
Ann Jones (Dyffryn Clwyd):A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran
gwella acwsteg ysgolion yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0245(ESK)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am gynnydd gyda’r cynllun Ysgolion ar gyfer yr
unfed ganrif ar hugain. OAQ(4)0236(ESK)
9. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru. OAQ(4)0237(ESK)
10.
Nick Ramsay (Mynwy):Sut
y mae’r Gweinidog yn hybu entrepreneuriaeth mewn ysgolion.
OAQ(4)0248(ESK)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am hyfforddiant i Lywodraethwyr ysgolion cynradd.
OAQ(4)0242(ESK)
12. Gwyn Price (Islwyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gallwn ddefnyddio cynghorau ysgol i helpu plant i ddysgu am faterion dinasyddiaeth ehangach. OAQ(4)0246(ESK)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi plant ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig mewn ysgolion. OAQ(4)0238(ESK)
14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa lefel o addysg rhyw yr ydych yn disgwyl i ysgolion ei darparu ym mhob cyfnod allweddol a pha ran y mae’r Llywodraeth yn ei chwarae o ran sicrhau bod ysgolion yn cydymffurfio. OAQ(4)0249(ESK)
15. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog, ddatganiad am faint y bwlch sgiliau yng
Nghymru. OAQ(4)0241(ESK)W
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a
Chymunedau
1. Mick Antoniw (Pontypridd):Pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i’r cynllun SEWTA sy’n ymwneud yn benodol ag ailagor y rheilffordd rhwng Pontypridd a Beddau. OAQ(4)0249(LGC)
2. Mick Antoniw (Pontypridd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru o ran pwerau trwyddedu awdurdodau lleol. OAQ(4)0250(LGC)
3. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddarparu cyllid uniongyrchol i Gynghorau Tref a Chymuned er mwyn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn eu hardaloedd. OAQ(4)0246(LGC)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am glystyrau’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd. OAQ(4)0239(LGC)
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar gyfer ein prifddinas. OAQ(4)0254(LGC)
6. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i gadw codiadau yn y dreth gyngor yng Nghymru mor isel â phosibl. OAQ(4)0245(LGC)
7. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhagolygon ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn nwyrain Caerdydd. OAQ(4)0244(LGC)
8. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella Cynhwysiant Ariannol. OAQ(4)0248(LGC)
9. David Rees (Aberafan):Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag undebau credyd yng Nghymru ynghylch cefnogi eu haelodau ar ôl y newidiadau i fudd-daliadau. OAQ(4)0253(LGC)
10. Lynne Neagle (Tor-faen):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith undebau credyd yng Nghymru. OAQ(4)0251(LGC)
11. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i ddefnyddio ei bwerau i roi cap ar braesept yr heddlu. OAQ(4)0252(LGC)
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. OAQ(4)0241(LGC)
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr. OAQ(4)0240(LGC)
14. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau rheilffyrdd ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. OAQ(4)0243(LGC)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anghenion trafnidiaeth pobl gorllewin Cymru. OAQ(4)0242(LGC)